Skip to content
Cyfrannwch

Sylwad Age Cymru yn ymateb i araith Andy Burnham ynghylch gofal cymdeithasol a'r Clo Triphlyg

Dyn hŷn yn edrych ar liniadur ac yn dal biliau yn ei law dde

Published on 30 Medi 2026 11:00 yh

Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru: "Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, rydym wedi bod yn araf i addasu i'r realiti hwn ac mae angen cytundeb newydd i bensiynwyr ers tro byd, felly mae'n wych gweld Llywodraeth y DU yn cydnabod hyn – ond wrth gwrs, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw'r hyn sydd ynddo.

"Mae ymrwymiad y Prif Weinidog i ddiwygio gofal cymdeithasol yn Lloegr i'w groesawu'n fawr. Byddai system gofal cymdeithasol fodern a blaengar, sy'n rhad ac am ddim wrth ei defnyddio, yn trawsnewid bywydau pobl hŷn a phobl anabl, yn ogystal â'u teuluoedd, ac mae'n rhywbeth rydym yn awyddus i'w weld ar draws y DU. Er bod cyfrifoldeb am ofal cymdeithasol yng Nghymru yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru, bydd penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn cael goblygiadau pwysig i ddiwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys drwy gyllid canlyniadol. Mae Age Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ddechrau cymryd siâp, gan adeiladu ar yr hyn y mae pobl hŷn ledled Cymru wedi'i ddweud wrthym am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw'n dda ac yn annibynnol.

"Mae cefnogaeth dda ym maes gofal cymdeithasol y gellir dibynnu arni yn hollbwysig i bobl hŷn os ydynt am fyw bywyd gweddus yn ystod eu hymddeoliad, ond mae sicrwydd ariannol yr un mor bwysig.

"Ers cenhedlaeth, mae'r Clo Triphlyg wedi rhoi hyder i bobl hŷn na fydd gwerth eu Pensiwn Gwladol yn cael ei erydu mewn byd ansicr ac ansefydlog; bellach, mae'r Llywodraeth eisiau ei newid o 2030 ymlaen, sef pryd y daw eu haddewid maniffesto i ben. Mae polisi pensiynau yn hynod gymhleth, felly rydym yn gohirio barnu effaith gyffredinol y diwygiad arfaethedig nes y gallwn graffu ar y manylion.

"Fodd bynnag, bydd llawer yn dibynnu ar y sefyllfa erbyn 2030, gan gynnwys lefel y Pensiwn Gwladol erbyn hynny. Bydd angen i ni fod yn hollol sicr y gall y rhai sy'n dibynnu ar y Pensiwn Gwladol yn unig gyrraedd safon byw weddus, ac mae hynny'n golygu bod angen cynllun cadarn iawn gan Lywodraeth y DU i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Mae llawer i'w wneud, gan gynnwys symud tuag at ddull newydd lle mae pobl hŷn ar yr incwm isaf yn derbyn y budd-daliadau ychwanegol sy'n ddyledus iddynt mewn gwirionedd – ar hyn o bryd, mae un o bob tri yn colli allan.

"Nid yw tlodi ymhlith pensiynwyr wedi'i ddileu, ac mae'r blynyddoedd diwethaf yn dangos mor ddistaw a chynnil y gall ddychwelyd os yw llywodraethau'n troi eu cefnau ar y mater. Dylai amddiffyn pobl hŷn sy'n agored i niwed, neu sydd ar yr incwm isaf, fod yn brawf eithaf o ddiwygiadau unrhyw Lywodraeth – ni all fod yn fater o ofal cymdeithasol neu ddiogelwch ariannol yn unig; mewn cymdeithas wâr, rhaid iddo fod yn y ddau.

"Mae tlodi yn annerbyniol ar unrhyw oedran. Wrth i gostau byw barhau i roi pwysau ar gyllid aelwydydd, rhaid peidio ag anwybyddu pobl hŷn. Mae Age Cymru yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i gydweithio i sicrhau bod pobl hŷn yn parhau i fod yn flaenoriaeth glir mewn cynlluniau a chyllidebau yn y dyfodol, gyda chamau gweithredu wedi'u targedu i leihau tlodi a gwella diogelwch ariannol yn y cyfnod diweddarach o fywyd."

 

Last updated: Hyd 01 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top