Cyhoeddiad TAW Filiau Trydan
Published on 21 Gorffennaf 2026 03:33 yh
Mae Age Cymru yn croesawu'r newyddion gan Lywodraeth y DU y bydd TAW yn cael ei leihau ar filiau ynni cartrefi, ond yn rhybuddio bod angen gwneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw cynyddol cyn y gaeaf hwn.
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru:
“Mi fydd pobl hŷn yn croesawu unrhyw gymorth ychwanegol gyda'u biliau tanwydd, rydym yn gwybod eu bod yn poeni'n fawr am gostau tanwydd ac yn aml yn lleihau ar eu gwresogi – sydd yn gallu rhoi eu hiechyd mvewn perygl, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu talu eu biliau. Gyda phrisiau ynni yn ansefydlog oherwydd y rhyfel parhaus yn y Dwyrain Canol, dylai'r gostyngiad hwn o leiaf helpu i liniaru effaith unrhyw gynnydd yn y dyfodol ym mhrisiau cyfanwerthu.
“Mae llawer mwy y gallwn ac y dylem ei wneud fel gwlad i'w gwneud hi'n haws i bobl hŷn fforddio gwresogi eu cartrefi yn ystod y gaeaf.
“Yng Nghymru, gwyddom fod prisiau tanwydd yn parhau i fod yn faich trwm ar lawer o bobl hŷn. Mae hyn yn rhannol oherwydd anghenion ynni uwch pobl hŷn, ond hefyd oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fyw mewn tai hŷn sy'n llai effeithlon o ran ynni, gan mai yng Nghymru y ceir y stoc dai hynaf a lleiaf effeithlon o ran cadw gwres yn Ewrop.
“Nid yw'r cymorth ynni wedi cadw i fyny â chostau ynni cynyddol ac nid yw'n ddigonol ar gyfer maint yr her ariannol y bydd niferoedd sylweddol o bobl yn ei hwynebu'r gaeaf hwn.
“Credwn fod atebion posibl a fyddai'n darparu cymorth ystyrlon i'r rhai sydd ei angen, er enghraifft, gallai'r Llywodraeth y DU gynyddu gwerth Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes (Warm Home Discount) ac ehangu'r meini prawf cymhwysedd y tu hwnt i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf moddion, er mwyn cynnwys aelwydydd ar incwm isel. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall cymorth cyrraedd pobl hŷn sy'n cael trafferth ond sydd ar hyn o bryd yn syrthio yn y bwlch cymhwysedd, ac yn colli allan.”