Ymateb Age Cymru i'r Cynnydd - Tachwedd 2026 yn y Cap Ynni
Published on 25 Tachwedd 2026 12:00 yb
Mae’r cyhoeddiad y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 26% arall yn fis Ionawr yn ergyd drom arall i bobl hŷn. Mae'r penderfyniad yn mynd i gael effaith ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru sydd yn dweud wrthym ddweud wrthym eu bod yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw.
Gyda nifer o bobl hŷn eisoes o dan bwysau ariannol difrifol, rydym yn annog cwmnïau ynni i gymryd pob cam posibl i helpu cwsmeriaid i ymdopi â chostau cynyddol ac i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i galedi.
Dangosodd canfyddiadau o Arolwg Blynyddol 2026 Age Cymru mai costau byw oedd yr ail fater mwyaf oedd yn wynebu pobl hŷn. Dywedodd 35% o'r ymatebwyr wrthym eu bod wedi gwneud newid i'w bywydau er mwyn gallu parhau i dalu costau byw, ac o'r rhain, mae 52% yn defnyddio llai o ynni neu wresogi.
Mae llawer o bobl hŷn hefyd wedi dweud wrth Age Cymru eu bod yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta; mae rhai hefyd yn mynd i ddyled, neu'n tynnu arian yn gynnar o bensiynau neu gynilion ymddeol, er mwyn talu am anghenion sylfaenol. Rydym yn pryderu am bobl hŷn sydd ag incwm isel a sefydlog, a fydd yn poeni am allu gwneud dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn.
Mae Age Cymru yn croesawu’r taliad ynni untro o £100 i rai aelwydydd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y taliad i gynnwys mwy o aelwydydd. Fodd bynnag, mae rhaid gwneud mwy i gefnogi pobl hŷn sy’n wynebu effaith barhaus prisiau ynni uchel. Dylai’r ddwy lywodraeth gymryd camau pellach i helpu i leihau’r straen ariannol y mae llawer o bobl hŷn yn ei brofi.
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru:
“Bydd y cyhoeddiad bod y Cap ar Brisiau Ynni ar fin codi unwaith eto yn cael effaith ddifrifol ar bobl hŷn wrth i ni agosáu at y gaeaf a thymheredd ostwng.
“Mae ein Harolwg Blynyddol wedi tynnu sylw at yr effaith y mae siociau prisiau a chodiadau yn y cap ynni yn ei chael ar bobl hŷn ledled Cymru. Dywedodd 52% o’r ymatebwyr fod Costau Byw yn her iddynt y llynedd, gyda llawer yn gorfod lleihau faint o ynni roeddent yn ei ddefnyddio.
“Rydym yn annog darparwyr ynni i gefnogi pobl hŷn gyda’u costau ynni, i ddangos tosturi ac i ddarparu cymorth ariannol.
“Mae rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem o dlodi tanwydd sy’n gwaethygu. Mae rhaid i ni adeiladu dyfodol lle nad oes unrhyw berson hŷn yn cael ei adael yn oer neu’n cael trafferth fforddio pethau hanfodol. Ni ddylai pobl hŷn orfod dewis rhwng bwyta neu gynhesu eu cartrefi yn 2027.”
Gall pobl ffonio llinell Gymorth Age Cymru er mwyn dod o hyd i gyngor a chael rhagor o wybodaeth. Ffoniwch 0300 303 44 98 o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ymweld a Cyngor Age Cymru