Mae Pob Pwyth yn Adrodd Stori: Cardigan Myra
Published on 02 Tachwedd 2026 04:06 yh
Cardigan hardd, brwdfrydedd a rennir a'r pleser o ddod at ein gilydd.
Weithiau, y pethau hynny rydyn ni'n eu creu gyda'n dwylo sy'n adrodd y straeon pwysicaf.
I Myra, mae gweu yn fwy na diddordeb syml. Mae'n gyfle i fod yn greadigol, i ddefnyddio ei sgiliau a gwneud rhywbeth mae hi'n ei fwynhau. Yn ystod cyfarfod y grŵp wythnosol yn Age Cymru Gwynedd a Môn, mae'n gyfle iddi rannu ei brwdfrydedd gyda phobl eraill.
Prosiect diweddaraf Myra yw'r gardigan hardd hon, esiampl wych o'r amser, yr amynedd a'r gofal sy'n cael ei roi i bob pwyth. Mae'n rhywbeth i ymfalchïo ynddo, a rhywbeth sy'n ein hatgoffa o'r sgiliau, talentau a'r diddordebau mae pobl yn ei fwynhau wrth iddyn nhw heneiddio.
Ond mae'r grŵp yn golygu mwy na'r pethau mae'r aelodau yn eu creu.
Mae'r grŵp yn golygu rhywle i fynd iddo, pobl i fwynhau clonc, a chyfle i dreulio amser gyda phobl eraill sy'n rhannu diddordebau tebyg. Mae'n golygu cyfeillgarwch, bod yn rhan o rywbeth a mwynhau pleserau syml fel gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.
Dydy heneiddio'n iach ddim ond yn golygu cadw'r corff yn heini. Mae'n golygu cynnal cysylltiadau, creu ymdeimlad o bwrpas a pharau i wneud y pethau hynny sy'n ein gwneud ni'n hapus.
Yma yn Age Cymru, rydyn ni'n credu y dylai pawb gael y cyfle i fwynhau heneiddio, teimlo'n werthfawr a chynnal cysylltiadau gyda'u cymunedau.
Mae gweithgareddau fel y grŵp wythnosol yn Age Cymru Gwynedd a Môn yn helpu i greu'r cyfleoedd hyn, dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd hamddenol, mewn lleoliad croesawgar, ble mae gan bawb rhywbeth i'w rannu.
Mae cardigan Myra'n esiampl wych o beth mae cyfleoedd fel hyn yn medru cyflawni, ond y bobl, y sgyrsiau a'r cysylltiadau sy'n gwneud grwpiau fel hyn yn bethau mor arbennig.
Pwy a ŵyr beth fydd y prosiect nesaf?
Diolch i chi, Myra, am rannu eich gwaith gwych gyda ni. Edrychwn ymlaen at eich prosiect nesaf!