Ymateb Age Cymru i gyhoeddiad Ofgem ynghylch cynnydd o 4% ar brisiau ynni rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2026
Published on 26 Awst 2026 10:40 yb
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: “Bydd y newyddion heddiw yn peri pryder i bobl sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth i brisiau ynni godi dros y blynyddoedd diwethaf, a phobl sydd eisoes yn mynd heb nifer o bethau er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.
“Mae costau byw yn parhau i fod yn her i lawer o bobl hŷn ledled Cymru. Yn ein harolwg blynyddol diweddaraf, dywedodd 52% o ymatebwyr eu bod yn defnyddio llai o ynni/gwres er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n medru ymdopi gyda chostau byw cynyddol.
“Mae prisiau ynni ar fin codi unwaith eto, felly rydyn ni’n galw am gamau pendant er mwyn diogelu pobl hŷn sydd angen help. Rydym yn galw ar Weinidogion y DU i godi’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes i £200 ar gyfer y gaeaf hwn, yn ogystal â chreu ffordd i bobl o bob oed ar incwm isel gyflwyno ceisiadau er mwyn iddynt fedru derbyn y cymorth hwn drwy eu cyflenwyr ynni. Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r Gronfa Cymorth Ddewisol er mwyn cefnogi pobl hŷn mewn argyfwng.
“Ni ddylai unrhyw berson hŷn orfod wynebu gaeaf arall yn poeni am gostau gwresogi eu tŷ – ond mae’r newyddion hyn yn golygu mai dyna fydd yn digwydd.
“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â thlodi tanwydd, sy’n dod yn fwy o broblem bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, y nod yw ceisio goroesi un gaeaf ar y tro; mae angen i ni greu dyfodol lle na fydd unrhyw berson hŷn yn oer drwy’r gaeaf ac yn methu fforddio hanfodion. Mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu’n gyflym er mwyn cefnogi pobl hŷn.”
Dylai pobl ffonio llinell Gymorth Age Cymru er mwyn dod o hyd i gyngor a chael rhagor o wybodaeth. Ffoniwch 0300 303 44 98 o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk