Skip to content
Cyfrannwch

Dweud eich dweud yn ein cyfarfodydd fforwm

Published on 02 Tachwedd 2026 02:46 yh

Rydyn ni'n cynnal dau gyfarfod fforwm yn ystod yr hydref, a hoffwn petai pobl hŷn ledled Cymru'n ymuno gyda ni.

Mae'r cyfarfodydd yn gyfle i gwrdd, mwynhau clonc a phaned o goffi, a rhannu beth sy'n bwysig i chi.  Y tro hwn, rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau, eich syniadau a'ch pryderon ynghylch cadw'n iach, yn cynnwys pa gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi er mwyn cadw'n iach ac yn heini, a pha heriau sy'n eich wynebu.

Byddwn ni hefyd yn trafod:

  • Gwasanaethau lleol a chefnogaeth yn y gymuned
  • Dod adref o'r ysbyty
  • Penderfyniadau a allai wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl hŷn.

Byddwch chi hefyd yn clywed am y gwasanaethau mae Rhwydwaith Age Cymru'n eu darparu er mwyn cefnogi pobl hŷn ledled Cymru, ynghyd a gwybodaeth am wirfoddoli.

Cyfarfod fforwm Caerdydd

Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026, 10am tan 12pm

Age Cymru, Tŷ’r Morwyr, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD

Cyfarfod fforwm ar-lein

Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2026, 10am tan 12pm

Ar Zoom.  Byddwn ni'n anfon dolen atoch chi ar ôl i chi gadarnhau eich lle.

Meddai Victoria Lloyd, ein Prif Weithredwr: "Rydyn ni'n credu y dylai pobl hŷn gael llais cryf wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.  Rydyn ni'n awyddus i glywed beth fyddai'n eu cefnogi nhw i ofalu am eu hiechyd a chadw'n heini a beth allai eu rhwystro nhw.

"Yn ystod y cyfarfod, byddwn ni hefyd yn trafod gwasanaethau ledled Cymru, pa gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned, dod adref o'r ysbyty a pha benderfyniadau fyddai'n gwella iechyd ac ansawdd bywyd pobl hŷn.

"Byddwn i'n annog pobl hŷn i ymuno a ni am beth sy'n sicr o fod yn drafodaeth ddiddorol.  Bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed gan y bobl hynny sydd wedi cael eu hethol i wneud penderfyniadau."

Mae pob llais yn bwysig.  Mae'r hyn fyddwch chi'n ei rannu'n ein helpu ni i gynrychioli pobl hŷn ledled Cymru, a sicrhau bod eich lleisiau chi'n cael eu clywed.

Archebwch eich lle

Llefydd cyfyngedig.  I archebu lle, e-bostiwch publicaffairs@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

 

Last updated: Tach 02 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top