Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth
Published on 23 Tachwedd 2026 05:34 yh
Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth: Annog pobl hŷn i fanteisio ar wasanaethau eirioli wrth i fynediad at gymorth arbenigol haneru
Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth hon (23 i 27 Tachwedd), rydym yn taflu goleuni ar rôl hollbwysig eiriolaeth ac yn rhannu canfyddiadau ein hymchwil ddiweddaraf, sy'n dangos gostyngiad amlwg yn y cymorth eirioli arbenigol sydd ar gael i bobl hŷn yng Nghymru.
Mae gwasanaethau eirioli yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus, i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac i ddeall eu hawliau'n well. Fodd bynnag, yn ôl ein hadroddiad Advocacy Counts 10, sydd newydd ei gyhoeddi, mae nifer y bobl hŷn sy'n cael cymorth gan wasanaethau eirioli arbenigol yng Nghymru wedi mwy na haneru ers 2024. Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer y gwasanaethau hyn wedi gostwng 40%, er bod y galw am gymorth yn cynyddu.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn YMA – Adroddiad Advocacy Counts 10
Canfu'r ymchwil fod nifer y gwasanaethau eirioli sydd yn benodol ar gyfer pobl 50 oed a throsodd wedi gostwng o 20 yn 2024 i 12 yn 2026, a bod nifer y bobl hŷn a gafodd gymorth wedi gostwng bron i 3,000. Mae gwasanaethau ar gyfer oedolion o bob oed hefyd wedi lleihau, gan adael 8% yn llai o eiriolwyr yn gweithio ledled Cymru.
Pam mae hyn yn digwydd?
Mae cyllidebau sydd wedi aros yn eu hunfan neu wedi'u torri, cyllid tymor byr a chostau byw cynyddol wedi'i gwneud yn anoddach i sefydliadau gynnig cyflog cystadleuol a chadw staff profiadol, gan adael 8% yn llai o eiriolwyr yn gweithio ledled Cymru. Ar yr un pryd, mae atgyfeiriadau'n cynyddu ac yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n golygu na all eiriolwyr gefnogi cymaint o bobl ar yr un pryd. Erbyn hyn, mae gan fwy na hanner y sefydliadau a gymerodd ran yn yr arolwg restr aros.
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru: "Mae eiriolaeth yn newid bywydau. Mae'n rhoi'r hyder i bobl leisio'u barn, deall eu hawliau a chael llais go iawn yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Mae ein prosiectau HOPE ac Eiriolaeth Dementia wedi cefnogi miloedd o bobl ledled Cymru, ac maen nhw'n helpu i sicrhau bod eiriolaeth i bobl hŷn yn dal ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.
"Heb gyllid hirdymor ychwanegol, diogel a chynaliadwy, bydd y pwysau hyn yn parhau i waethygu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i ddiogelu a thyfu cymorth eirioli, fel bod pawb sydd angen help i gael eu clywed yn gallu cadw dewis, rheolaeth a llais yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau."
Rydym yma i helpu
Er gwaethaf y gostyngiadau hyn, mae'n bwysig gwybod bod gwasanaethau eirioli sydd yn benodol ar gyfer pobl hŷn yn dal ar gael ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Os oes angen ychydig o help arnoch chi, neu ar rywun rydych chi'n ei adnabod, i gael eich clywed, neu os hoffech wybod mwy am Wasanaethau Eirioli Age Cymru, gan gynnwys sut i gael cymorth neu sut i wirfoddoli fel eiriolwr, cysylltwch â ni:
Ffoniwch: 029 2043 1555
E-bost: advocacy@agecymru.org.uk