Skip to content
Cyfrannwch

Eleanor yn seiclo 70 milltir yn 70 oed ac yn codi £1,250

Published on 19 Mai 2026 07:32 yh

Mae ein hymddiriedolwraig Eleanor Sanders wedi codi £1,250, swm anhygoel, ar ôl beicio 70 milltir ar hyd llwybr Taith Taf - i gyd er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.

Mi wnaeth her godi arian Eleanor, ‘70@70’, godi mwy na dwbl ei nod gwreiddiol o £700.  Cafodd hi arian gan fwy na 65 o bobl, a gwnaeth pob un ohonyn nhw ei chefnogi hi yn ystod yr her.

Dechreuodd Eleanor gadw’n heini drwy ddefnyddio’r rhaglen redeg Couch to 5k, ond wedi iddi ddatblygu cyflwr iechyd cronig ar ei chefn, bu’n rhaid iddi ddiosg y daps a gwisgo crys seiclo.  Doedd Eleanor ddim yn feicwraig hyderus, ond roedd hi’n chwilio am ffordd o godi arian, rhywbeth fyddai’n ei herio hi heb fod yn amhosib.  Dyna pryd cafodd hi’r syniad o ddefnyddio llwybr Taith Taf.

Dywedodd Eleanor: “Tua 11 mlynedd yn ôl, sylweddolais i ba mor an-ffit oeddwn i, ac roeddwn i eisiau bach o newid.  Roeddwn i’n mwynhau rhedeg yn fawr iawn, ac yn ddig nad oeddwn i wedi cychwyn arni’n gynharach!

“Yn anffodus, ar ôl 5 mlynedd o redeg, daeth y blynyddoedd o weithio ar fy nhraed fel nyrs yn ormod i mi, a datblygais i gyflwr iechyd cronig ar fy nghefn.  Yn ffodus, roedd seiclo yn ateb arbennig!

 “Dewisais i lwybr Taith Taf am nifer o resymau; rydw i’n beicio’r llwybr bob wythnos pan dwi’n mynd i Barc Bute i wirfoddoli gyda’r Parc Run yng Nghaerdydd, felly dwi’n gyffyrddus iawn yn beicio’r llwybr.  Hefyd, mae’r olygfa ar hyd y llwybr yn brydferth tu hwnt, hyd yn oed yng nghanol y glaw!”

Taff Trail.jpeg

Roedd yr her hefyd yn dathlu penblwydd Eleanor yn 70 oed, sef y rheswm tu ôl penderfyniad Eleanor i godi arian.  Mae Eleanor wedi bod yn gwirfoddoli gydag Age Cymru, ac yn eirioli ar gyfer prosiect HOPE am ddwy flynedd, ac mae Eleanor yn ei ddisgrifio fel profiad gwerthfawr iawn.

Dywedodd Eleanor: “Mae fy rôl i’n teimlo fel pont sy’n cysylltu pobl hŷn gyda’r gefnogaeth, y cyfeillgarwch a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw.  Mae Age Cymru’n bwysig iawn i mi, fel ymddiriedolwraig ac fel eiriolwr gwirfoddol gyda phrosiect HOPE, ac mae hi wedi bod yn anrhydedd helpu unigolion i fynd i’r afael â’r problemau maen nhw’n eu hwynebu.”

Dyma neges Eleanor i bawb sy’n ofni eu bod nhw’n rhy hen i ddechrau pethau newydd: “Roeddwn i’n bles iawn gyda’r daith.  Roedd fy nghoesau i’n gryf, roeddwn i’n cynllunio hoe fach bob hyn a hyn er mwyn cael rhywbeth i edrych mlaen ato – ar ôl beicio am gyfnodau hir, roedd coffi a chacen fach yn braf iawn!

“Y peth wnes i fwynhau fwyaf oedd cyrraedd y 10 cilomedr olaf.  Ar ddiwedd y daith, bum yn beicio Llwybr Beicio Bae Caerdydd, a daeth fy ngŵr a’m hwyres fach 9 oed i seiclo gyda mi.  Roeddwn i’n teimlo’n emosiynol iawn yn croesi’r llinell derfyn, ac roeddwn i’n falch iawn i fedru dangos i’m hwyres eich bod chi’n medru mynd i’r afael â heriau difrifol a chyflawni pethau arbennig pan fyddwch chi’n ddigon penderfynol.

 “Hoffwn ddweud diolch o galon i bawb wnaeth fy nghefnogi i – drwy roi arian neu drwy fy nghefnogi i ar y beic!  Gwnaeth y gefnogaeth wahaniaeth go iawn pan roedd y daith yn anodd!”

Eleanor & family.JPG

Dywedodd Prif Weithredwraig Age Cymru, Victoria Lloyd, mai ymroddiad ymddiriedolwyr fel Eleanor sy’n galluogi’r elusen i gyflawni ei waith pwysig: “Rydyn ni’n lwcus iawn i gael ymddiriedolwyr arbennig fel Eleanor.  Ei gwaith caled hi a gwirfoddolwyr fel hi, a chefnogaeth y bobl sy’n rhoi eu harian, sy’n ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn yng Nghymru.  Dwi’n mawr obeithio bydd Eleanor yn rhoi ei thraed i fyny nawr ac yn mwynhau picen neu ddwy, ond dwi’n gwybod bydd hi’n ôl ar ei beic cyn hir, neu’n meddwl am her newydd!  Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am ei chefnogaeth!

Cliciwch yma i weld tudalen godi arian Eleanor

Os hoffech chi wneud gwahaniaeth go iawn drwy godi arian, gallwch chi:

Anfonwch neges i ni ar Facebook neu X (Trydar gynt) a rhannwch fanylion am eich digwyddiad.

 

Last updated: Mai 19 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top