Skip to content
Cyfrannwch

Dydy mwy na 80% o bobl hŷn yng Nghymru ddim yn hawlio cymorth ariannol

Published on 20 Mai 2026 02:05 yh

Rydyn ni’n annog pensiynwyr i ddysgu rhagor am y miloedd o bunnoedd o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.  Yn y DU, mae gwerth £3 biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio, ac yng Nghymru mae £100 miliwn ohono’n gredydau pensiwn heb eu hawlio.

Mae’r elusen wedi lansio eu canllaw blynyddol Mwy o Arian yn eich Poced, sy’n llawn gwybodaeth am gefnogaeth ariannol ar gyfer pobl hŷn.  Nid yw llawer o’r gefnogaeth ariannol yn dibynnu ar brawf modd, sy’n golygu ei fod ar gael i lawer fawr o bobl – mae pryderon am brofion modd wedi rhwystro llawer o bobl rhag chwilio am gymorth yn y gorffennol.

Mae ‘na dair rhan i’r canllaw:

Pensiwn - Gwybodaeth am gynlluniau pensiwn y wladwriaeth a chredydau pensiwn, gall hwn fod werth cannoedd o bunnoedd y flwyddyn

Cartref - Llawer o wybodaeth yn cynnwys gostyngiad ar Dreth y Cyngor, taliadau tanwydd gaeaf a gostyngiadau cartrefi cynnes

Llesiant - Amrywiaeth o gefnogaeth yn cynnwys lwfans gofalwyr, gwiriadau deintyddol a gwiriadau llygad am ddim a lwfans gweini.

Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwraig Age Cymru, ei fod yn hanfodol bod pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw: “Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, ond mae nifer o bobl hŷn yng Nghymru’n agored i niwed.  Dywedodd 78% o’r gweithwyr hŷn wnaeth ymateb i’n harolwg eu bod nhw wedi newid eu cynlluniau ar gyfer ymddeol oherwydd pryderon am arian.

“Ar ôl dod i wybod bod cefnogaeth ar gael, mae nifer o bobl yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol bod ganddyn nhw hawl iddo.  Dydy nifer o bobl hŷn erioed wedi hawlio budd-daliadau na unrhyw fath o gefnogaeth o’r blaen; yn aml doedden nhw ddim yn credu eu bod nhw’n gymwys i dderbyn unrhyw beth.

“Fodd bynnag, y ffaith yw rydyn ni’n wynebu un argyfwng ariannol ar ôl y llall, o argyfwng costau byw i argyfwng costau tanwydd ac ynni; mae hyd yn oed y bobl hynny a oedd yn gymharol gyffyrddus yn y gorffennol yn gorfod dewis rhwng gwresogi’r tŷ a phrynu bwyd ar adegau.

“Mae sicrwydd ariannol yn dylanwadu’n sylweddol ar nifer o faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn, yn cynnwys gwresogi eu cartrefi, osgoi ynysigrwydd a chael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth hanfodol.  Rydw i’n annog pawb i ddarllen a rhannu ein canllaw gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, er mwyn bod pawb yn medru cael y cyllid mae ganddyn nhw hawl iddo.”

Mae stori John* yn esiampl o’r camddealltwriaeth sy’n bodoli o ran meini prawf cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau penodol.  Cysylltodd John â llinell gyngor Age Cymru ar ôl darllen y canllaw.  Roedd John yn gyn-yrrwr cerbydau nwyddau trwm, ac roedd wedi treulio rhan o’i yrfa’n darparu cymorth i ardaloedd tramor ble mae gwrthdaro, a doedd e erioed wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau, oherwydd nad oedd yn credu ei fod e’n gymwys i dderbyn unrhyw gefnogaeth ariannol.

Roedd gan John incwm sefydlog, ac roedd yn dechrau teimlo dan straen oherwydd biliau a chostau byw cynyddol, ac roedd e’n dioddef nifer o gyflyrau iechyd gwahanol; felly, roedd John yn awyddus i ddod o hyd i gefnogaeth.

Dywedodd John: “Pan nad ydych chi wedi hawlio unrhyw beth drwy eich oes, dydych chi ddim yn gwybod beth yw’r drefn – doeddwn i ddim yn gwybod os oedd gen i hawl i unrhyw beth.  Dysgais fy mod i’n gymwys ar gyfer sawl budd-dal nad oeddwn i’n eu hawlio ar y pryd, yn cynnwys Lwfans Gweini, Credyd Pensiwn, Lwfans Gofalwyr, Taliad Tanwydd Gaeaf, Gostyngiad Cartrefi Cynnes a sawl peth arall.

“Roedd gan fy ngwraig a minnau hawl i ychydig yn llai na £10,000 o gefnogaeth bob blwyddyn – mae hwn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n bywydau bob dydd!  Hoffwn petawn i wedi gwybod amdano ynghynt a byddwn i’n annog pawb i ddarllen y canllaw a chodi’r ffôn i siarad ag Age Cymru!”.

Ewch i www.agecymru.wales/information-advice/more-money-in-your-pocket/, i ddarllen ein canllaw, neu ffoniwch 0300 303 44 98 i gael rhagor o wybodaeth. 

Nodiadau

* Newidiwyd yr enw er mwyn diogelu unigolion

 

Last updated: Mai 20 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top