Gwanwyn

Gwanwyn 2026: Yr Hinsawdd
Sicrhau bod mentrusrwydd pobl hŷn yn rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd
Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy'n digwydd drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, a'i nod yw arddangos creadigedd pobl hŷn. Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys comedi, gwnïo, Bollywood a chlybiau llyfrau.
Mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl hŷn fod yn greadigol fel ymarferwyr, trefnwyr, neu aelodau o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i ddeall sut allant elwa drwy fod yn greadigol yn gorfforol ac yn feddyliol.
Thema Gwanwyn 2026 yw Yr Hinsawdd.
Mae pobl hŷn ymhlith yr ymgyrchwyr mwyaf angerddol dros yr hinsawdd a gallant fod yn gyfranogwyr brwdfrydig a phrofiadol wrth gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch yr hinsawdd. Eleni, hoffwn dynnu sylw at brosiectau sy'n defnyddio dulliau creadigol er mwyn tynnu sylw at gyfiawnder yr hinsawdd ac eco-bryder.
Rhan o nod Gwanwyn yw herio stereoteipiau am heneiddio a phobl hŷn, a byddwn ni’n arddangos gweithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sy’n cynrychioli amrywiaeth a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru.
Bydd yna gyfleoedd drwy gydol mis Mai i fod yn rhan o weithgareddau’r Ŵyl, yn cynnwys rhoi tro ar rywbeth newydd er mwyn arddangos eich sgiliau creadigol.
I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk
Neu ffoniwch 029 2043 1555
Os hoffech chi lanlwytho digwyddiad i galendr yr Ŵyl, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Storïwyr
Eleni, hoffwn rannu'r effaith y mae bod yn greadigol wedi'i chael ar fywydau pobl hŷn ledled Cymru. Os ydych chi dros 50 oed ac eisiau rhannu eich stori, neu os ydych chi'n cynnal gweithgaredd creadigol i bobl hŷn ac mae gennych chi stori i’w hadrodd am eich cymuned, anfonwch e-bost at gwanwyn@agecymru.org.uk neu ffoniwch 07944 996720.