Skip to content
Cyfrannwch

Y Cam Mawr

Ym mis Medi, helpwch ni i fynd i’r afael ag unigrwydd drwy gefnogi pobl hŷn ledled Cymru.

Ymunwch ag her Y Cam Mawr er mwyn codi arian a sicrhau ein bod ni’n medru darparu cymorth i bobl hŷn unig ag ynysig. Ewch ati i gerdded 50 milltir yn ystod mis Medi neu dewiswch eich her eich hun.

Bydd eich cefnogaeth chi’n ein galluogi ni i ddarparu gwasanaethau hanfodol fel ein gwasanaeth cyfeillgarwch dros y ffôn a Chyngor Age Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu cymorth i nifer o bobl ledled Cymru.
________________________________________

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae 220,000 o bobl hŷn yng Nghymru’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig. Mae costau cynyddol yn golygu bod nifer o bobl yn cyfyngu ar weithgareddau maen nhw’n eu mwynhau – er enghraifft cwrdd â ffrind am baned o de. Mae pobl sy’n byw gydag anableddau neu afiechydon yn wynebu heriau ychwanegol.

Er bod help ar gael, mae nifer o bobl yn ceisio ymdopi heb unrhyw gefnogaeth. Mae gwerth £175 miliwn o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn yng Nghymru – gallai’r gefnogaeth hyn helpu pobl sy’n wynebu pwysau ariannol. Ond mae nifer o ffactorau yn rhwystro pobl rhag hawlio.

Bydd yr arian rydych chi’n ei gasglu’n ein helpu ni i fynd i’r afael â’r problemau hyn – byddwn ni’n medru darparu cyngor, cyfeillgarwch a llais caredig i unrhyw un sydd angen ein help.

Sut rydyn ni’n helpu?

Llynedd, gwnaethom ddarparu 12,000 o alwadau i bobl hŷn unig drwy ein gwasanaeth cyfeillgarwch, ac mi wnaeth Cyngor Age Cymru helpu i ddatrys dros 41,000 o broblemau a oedd yn wynebu pobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr ledled Cymru.

Bydd pob cam a phob punt yn ein helpu ni i gyrraedd mwy o bobl sydd angen ein help.

Sut i gymryd rhan yn Y Cam Mawr

Cofrestru

Cofrestru i ymuno â’r Cam Mawr neu ffoniwch 029 2043 1531

Crëwch eich her eich hun

Dewiswch nifer y camau hoffech gerdded

Nawdd

Gofynnwch i’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cyd-weithwyr i’ch noddi.

Dechreuwch godi arian

Codwch £100 a byddwch yn derbyn crys-t y digwyddiad.

 

Last updated: Meh 26 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top